Ar 4 Mai 2017, bydd pobl ledled Cymru yn cael cyfle i ddweud eu dweud am sut y caiff eu hardal leol ei rhedeg.
Yn ogystal â gofalu am amrywiaeth enfawr o wasanaethau, mae cynghorau lleol hefyd yn cyflogi nifer fawr iawn o bobl, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.
Mae 700,000 o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ac mae gan nifer o’r bobl hyn swyddi. Mae Cymru’n wynebu problem benodol o ran cyflogau isel, ac mae mwy nag un o bob pump o’r gweithwyr yng Nghymru yn ennill llai na’r Cyflog Byw. Cyfradd tâl wirfoddol yw’r Cyflog Byw. Mae’n cael ei phennu’n annibynnol, yn seiliedig ar gostau byw sylfaenol. Mae’r Cyflog Byw yn £8.45 yr awr.
Mae’r data’n dangos bod menywod yn fwy tebygol na dynion o gael cyflog sy’n is na’r Cyflog Byw – a dweud y gwir, mae 29% o fenywod yn y DU yn cael cyflog sy’n is na’r Cyflog Byw, o gymharu â 18% o ddynion.
Mae Cymru wedi’i rhannu’n 22 o ardaloedd cyngor lleol, a dim ond un o’r rhain sy’n gyflogwr Cyflog Byw achrededig. Er mwyn rhoi’r cyfle gorau i waith godi pobl allan o dlodi, rhaid i waith dalu. Rhaid i gynghorau wneud mwy i gynyddu nifer y bobl sy’n ennill y Cyflog Byw – trwy ddod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig, gwneud defnydd mwy effeithiol o’r gwasanaeth caffael, rhedeg mentrau lleol, a hyrwyddo manteision talu’r Cyflog Byw ymhlith busnesau yn yr ardal leol.
Rydym wedi siarad â gweithwyr ledled Cymru am y Cyflog Byw, a’r effaith y gall ei chael ar fywyd bob dydd. “Roedd y rhaid i mi fod â dwy swydd o’r blaen, a hynny er mwyn ennill digon bob mis i gael deupen llinyn ynghyd, a bod ag ychydig dros ben i’w wario ar fy mhlentyn. Mae fy merch yn hoffi mynd i’r pwll nofio weithiau, neu i Starbucks! Felly roedd gennyf ddwy swydd, ond roedd yn golygu llawer o ruthro o gwmpas. Ei chasglu hi o’r ysgol, rhuthro ei swper, aros i’w brawd ddod adref er mwyn i mi allu mynd yn ôl i’r swydd arall, ac yna ddod adref yn
hwyr ac yn rhy flinedig i ryngweithio â hi.”
Gwyddom na fydd y Cyflog Byw yn cael gwared ar dlodi, ond mae’n rhan bwysig o’r ateb. Ni all gwaith gynnig llwybr effeithiol allan o dlodi oni bai fod yr incwm sydd ar gael yn ddigon i dalu am gostau sylfaenol byw.
Rydym am weld Cymru lle mae’r Cyflog Byw, o leiaf, yn cael ei dalu i bawb.