Gwneud Cymru yn Genedl o Noddfa

Ddoe (07/07/2017) mi gyhoeddodd y pwyllgor Cydraddoldeb,  Awdurdodau Lleol a Chymunedau adroddiad yn galw ar bobl ymhob sector yng Nghymru i weithio hefo’i gilydd i adeiladu Cymru fel Cenedl o Noddfa.

Os caiff yr argymhellion sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad eu gweithredu, bydd bywyd yn llawer gwell i rai o bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas. Mae’r rhain yn bobl sydd wedi goroesi amodau erchyll, pobl sydd, er gwaethaf yr holl rwystrau, wedi cyrraedd lle diogel. Mae’r rhain yn rhai o’r bobl ddewraf yr ydw i wedi cael y fraint i’w cwrdd.

Mae’r adroddiad wedi ei sefydlu ar ôl ymchwiliad eang i faterion sy’n wynebu ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru heddiw. Mae aelodau’r pwyllgor wedi gwneud yn siŵr fod lleisiau ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn yr ymchwiliad yn flaenoriaeth. Mae’n glir wrth edrych ar yr adroddiad fod aelodau’r pwyllgor wedi gwrando ar brofiadau’r ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac wedi cael eu cyffwrdd gan yr hyn a ddywedwyd.

Mae’n amhosib i ni ddychmygu sut brofiad ydi hi i redeg i ffwrdd gyda’ch teulu, gan adael popeth arall ar ôl. Pob peth oedd yn gyfarwydd, popeth rydych yn ei garu, er mwyn dod o hyd i le diogel a’r cyfle i gael bywyd newydd. Sut fyddwn ni yn ymdopi? Sut fuasem ni eisiau i’n teuluoedd gael eu cefnogi?

Fel gwlad gyfrifol yn fyd-eang, ni all Cymru beidio â chynnig croeso cynnes i’n ffrindiau a’n cymdogion. Mae gennym ni gyfrifoldeb i genhedloedd i ddod i ddangos na throdd Cymru ei chefn ar ffoaduriaid, ac mai’r ymateb oedd cynnig croeso a chariad.

Os caiff yr argymhellion eu derbyn, bydd ein ffrindiau a’n cymdogion yn medru cychwyn ar eu taith i wella, a chychwyn bywyd newydd. Bydd pobl yn medru’r Saesneg yn gynt, a chael mynediad i wasanaethau hanfodol. Byddent yn mewn tai o safon ddisgwyliedig o fewn y gymuned Gymreig, peidio a chael eu gadael yn amddifad, bydd eu sgiliau a’u cymwysterau yn cael eu gwerthfawrogi a bydd plant fydd yn cyrraedd ar ben eu hunain yn cael eu gwarchod. Os ydym ni fel cenedl yn gweithredu ar yr argymhellion hyn, byddwn yn medru dathlu’r cyfraniad mae ein ffrindiau a’n cymdogion yn
ei roi i’n cymunedau, a byddwn ar y llwybr i fod y Genedl o Noddfa gyntaf yn y byd.

Fe fedrwch chi fod yn rhan o’r daith hon, plîs gofynnwch i’ch Aelod Cynulliad i gefnogi’r argymhellion yn yr adroddiad, ac os oes gennych chi stori i’w adrodd ynglŷn â sut yr ydych chi neu eich cymuned wedi cefnogi ffoaduriaid neu geiswyr lloches, rhannwch yma.

Mae heddiw yn ddiwrnod balch i fod yn ddinesydd o Gymru a’r byd.