Pobl ifanc yng Nghymru yn galw am gydraddoldeb

Bob blwyddyn, fel rhan o fudiad ieuenctid Urdd Gobaith Cymru, mae pobl ifanc ledled Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i rannu eu neges o heddwch ac ewyllys da â’r byd.

Mae Urdd Gobaith Cymru yn darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc yng Nghymru feithrin sgiliau personol a chymdeithasol i’w galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned.

Mae’r Urdd wedi cyhoeddi ‘Neges Heddwch ac Ewyllys Da’ gan bobl ifanc yng Nghymru bob blwyddyn er 1925. Mae pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithdai a thrafodaethau i ddatblygu’r neges, sy’n cael ei rhannu â phobl ifanc ledled y byd. Eleni, ymgysylltodd Bwrdd Syr IfanC (Bwrdd Cynghori Ieuenctid yr Urdd) â phobl ifanc ledled Cymru i ddatblygu ei neges heddwch ac ewyllys da.

Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2017 gan bobl Ifanc Cymru

Gwahoddwn ieuenctid ar draws y byd i ymuno â ni i alw am gydraddoldeb i bobl ifanc.

Rydym eisiau cydraddoldeb:

Yn ein cyfleoedd addysgol; yn ein rhyddid i fyw yn ôl ein rhywioldeb; wrth ymdrin ag anableddau; yn ein cyfleoedd mewn bywyd; yn ein hawliau i ddefnyddio ein hiaith; beth bynnag ein hil a’n daliadau crefyddol.

Heb gydraddoldeb a chydnabyddiaeth o’n hawliau, ceir yr argraff anghywir ohonom ni, y bobl ifanc.

Rydym eisiau i’n lleisiau gael eu clywed, rydym eisiau i’n lleisiau gael eu parchu.

Mynnwn yr hawl i bawb fynegi eu barn ac i bobl ifanc fwrw eu pleidlais, gan ofyn i eraill siarad â ni, cyn siarad ar ein rhan ni.

Nid oes gennym yr holl atebion, ac mae gennym ein gwendidau, ond rydym yn eu cydnabod, ac mae gennym le i wella.

Mynnwn dderbyn y wybodaeth gywir.

Mynnwn gael ein haddysgu am faterion cymdeithasol, gwleidyddol a rhyngwladol – trwy anogaeth ac nid gorfodaeth, a thrwy hynny medrwn ddylanwadu ar eraill.

Gyda’n gilydd, gallwn godi safonau ein cymdeithas ar gyfer ein cenhedlaeth ni a chenedlaethau’r dyfodol – a sicrhau taw cydraddoldeb sydd wrth wraidd penderfyniadau’r dyfodol.

Neges bwerus o gydraddoldeb, hawliau yn cael eu parchu, a lleisiau’n cael eu clywed. Mae hyn yn rhoi cyfle gwych i bobl ifanc ddysgu. Gofynnwch i’r disgyblion yn eich dosbarth beth fyddai eu neges nhw. A fyddai’r neges yr un peth â neges pobl ifanc Cymru? Beth y mae’r neges hon wir yn ei olygu ar gyfer ein bywydau ni heddiw, ac yn y dyfodol? Yn bwysig, sut y gallwn ni, fel dinasyddion lleol a byd-eang, gymryd camau i weithio tuag at gydraddoldeb?

Mae gan Oxfam Education lawer o adnoddau y gellir eu defnyddio i helpu dysgwyr i archwilio achosion ac effeithiau anghydraddoldeb, ynghyd â’r hyn y gallant ei wneud i sicrhau gwahaniaeth cadarnhaol.

  • Mwy neu Lai’n Gyfartal? – mae hwn yn archwilio bywydau pobl ifanc ledled y byd. Mae cynlluniau gwersi ar gyfer plant 11-14 oed ar gael ar gyfer Daearyddiaeth (ar gael yn Gymraeg), Mathemateg a Saesneg.
  • Gall dysgwyr ddarganfod mwy am anghydraddoldeb a bywydau pobl ifanc ledled y byd tra’u bod yn meithrin sgiliau rhifedd, trwy ddefnyddio Pawb yn Cyfri, adnodd ar gyfer plant 8-12 oed (ar gael yn Gymraeg).
  • Ewch ati i archwilio materion sy’n ymwneud â grymuso menywod trwy ddefnyddio Dod â Data’n Fyw ar gyfer dysgwyr 11-14 oed ac 14-16 oed (ar gael yn Gymraeg).
  • Mae Codi ei Llais yn gyfres gyffrous o wersi sy’n ysbrydoli dysgwyr i archwilio rôl cerddoriaeth ym maes newid cymdeithasol (ar gael yn Gymraeg).
  • Yn Data Power, mae dysgwyr yn ymgymryd â rôl ymchwiliol trwy gasglu, dadansoddi a delweddu data am fywydau plant mewn gwledydd gwahanol. Cyfle i ddatblygu cymwyseddau digidol a sgiliau trin data.
  • Gêm ryngweithiol sy’n archwilio anghydraddoldeb yw Republic of You. Mae’r dysgwyr yn creu eu cenhedloedd eu hunain, ac yn dod wyneb yn wyneb â materion y byd go iawn, er enghraifft treth, cyflogau, a sut y mae talu am wasanaethau cyhoeddus hanfodol.

Gallwch ddarllen y neges mewn sawl iaith – Cymraeg, Rwsieg, Ffrangeg, Sbaeneg, Swahili, Gaeleg, a llawer mwy.