Sgiliau Bywyd – estyn help llaw i fenywod i fyd cyflogaeth

Mae Sgiliau am Oes yn brosiect newydd cyffrous sy’n galluogi menywod yng Nghaerdydd i ennill y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnyn nhw i gael swyddi gwerth chweil.

Mae Sgiliau am Oes yn canolbwyntio’n benodol ar fenywod Duon ac o Leiafrifoedd Ethnig (BME), ac yn dod ag Oxfam Cymru â’r South Riverside Community Development Centre at ei gilydd er mwyn darparu rhaglen ategol o weithdai, hyfforddiant, sesiynau hyfforddi proffesiynol a lleoliadau gwaith gwirfoddol wedi’u haddasu sy’n para blwyddyn. 

Mae’r prosiect Sgiliau am Oes yn rhan o gronfa arloesedd Cymunedau dros Waith, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae’n rhan hanfodol o waith Oxfam yng Nghymru a ledled y DU hefyd er mwyn mynd i’r afael â’r hyn sy’n achosi tlodi. Mae Cymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, a menywod yn benodol, ymysg y grwpiau sydd o dan yr anfantais fwyaf yn gymdeithasol ac yn economaidd, ac sy’n dioddef tlodi ac allgau cymdeithasol ar lefelau anghymesur. Mae menywod yn dal i gael llai o gyflog am y gwaith maen nhw’n ei wneud – mae’r blwch
cyflog rhwng y rhywiau yn golygu bod menywod yn ennill 18% yn llai na dynion am wneud yr un gwaith. O’r menywod sy’n gweithio rhan-amser yng Nghymru, mae 40% yn cael eu talu llai na’r Cyflog Byw. Yn aml iawn, does gan fenywod ddim llais mewn prosesau gwneud penderfyniadau a dydyn nhw ddim yn cael eu cynrychioli’n ddigonol mewn rolau arweiniol chwaith – a dyna pam mae Oxfam a’n partneriaid yn gweithio er mwyn newid y
drefn.   

Mae Oxfam bob amser yn cychwyn ei waith drwy ystyried yr hyn y gall unigolyn ei wneud yn hytrach na’r hyn na all ei wneud ac yna’n adeiladu ar hynny er mwyn grymuso, ysbrydoli a’u cynorthwyo i gymryd rheolaeth o’u sefyllfa economaidd. Drwy gymorth un i un gan un o Weithwyr Ffordd o Fyw/Bywiolaethau y prosiect, bydd y cyfranogwyr yn gallu cymryd rhan yn y canlynol hefyd:

  • Lleoliadau gwaith gyda chyflogwyr er mwyn darparu profiadau cadarnhaol o ddychwelyd i weithio neu o ymuno â’r byd gwaith 
  • Hyfforddiant proffesiynol
  • Hyfforddiant achrededig a heb ei achredu
  • Hyfforddiant cyflogadwyedd deuddydd yn canolbwyntio ar CVs, cyfweliadau, gwneud argraff dda a gosod nodau.
  • Mae cyllid wedi’i ddyrannu i’w helpu i gael cyflogaeth – er enghraifft, gofal plant a chostau teithio 

Fel rhan o’r prosiect, bydd cyfranogwyr yn mynychu gweithdai datblygiad personol misol hefyd ar bynciau fel arweinyddiaeth, pendantrwydd a sgiliau cyflogadwyedd. Cynhelir y grŵp cyntaf o weithdai y mis hwn yng nghanol Caerdydd a bydd yn canolbwyntio ar ddod i adnabod ein gilydd, gan feithrin sgiliau a hyder mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol. 

Mae’r prosiect Sgiliau am Oes yn rhan o raglen ehangach Oxfam o’r enw Sgiliau’r Dyfodol sy’n helpu i fynd i’r afael â thlodi ledled y DU gan ddefnyddio ein rhwydwaith o siopau elusennau. Mae’r prosiect wedi bod ar waith ym Manceinion dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi bod yn llwyddiant ac mae Caerdydd, Glasgow a Llundain yn gwneud yr un peth. Mae’n ychwanegiad i brosiectau blaenorol Oxfam
sef Noddfa yng Nghymru ac Mynediad i Fenter (Access to Enterprise) yn ogystal â’n prosiect tair blynedd Adeiladu Bywiolaethau. Mae prosiectau Sgiliau’r Dyfodol sydd eisoes ar y gweill yn argoeli’n dda hyd yma.

Dyma oedd gan gyfranogwr yn un o raglenni Sgiliau’r Dyfodol sydd wedi ei chynnal i ddweud: “Fe wnaeth y rhaglen fi’n fwy ymwybodol ac fe enillais i sgiliau newydd; diolch i’r hyfforddiant, fe ges i sgiliau gwaith tîm a sgiliau arwain, ac yn bwysicach fyth, hyder.” 

Cysylltwch â Miriam Merkova (Rheolwr Prosiect) am ragor o wybodaeth: 0300 200 1269 / mmerkova1@oxfam.org.uk.

Mae prosiect Sgiliau Bywyd yn cefnogi rhaglen Cymunedau dros Waith ac yn cael ei arianu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.