13 Awdurdod lleol ddim yn croesawu ffoaduriaid o Syria rhwng mis Ebrill i Fehefin

Mae ffigurau newydd a ryddhawyd gan y Swyddfa Gartref heddiw [dydd Iau 24 Awst] yn dangos bod 96 o ffoaduriaid o Syria wedi’u setlo yng Nghymru rhwng mis Ebrill a Mehefin eleni. 

Mae hyn yn gynnydd cymedrol o’r 75 a gafwyd eu croesawu ar ddechrau’r flwyddyn, ac yn dod â’r cyfanswm cyffredinol i 568.

Er bod y nifer wedi cynyddu, mae 13 o Awdurdodau Lleol wedi methu a chroesawu ffoaduriaid o Syria, o’i gymharu ag 11 yn y chwarter blaenorol.

Dywedodd Ben Lloyd, rheolwr Ymgyrchoedd ag Eiriolaeth Oxfam Cymru;

“Rydym yn croesawu’r ffaith fod y gyfradd o ffoaduriaid o Syria sydd yn cael eu cynnal yng Nghymru wedi cynyddu yn y misoedd diwethaf, ond mae llawer mwy y gall, ag y dylid ei wneud.

“Mae Gogledd Iwerddon wedi croesawu 117 yn yr un amser, tra bod yr Alban wedi setlo 146, sydd yn dangos yn glir fod Cymru yn disgyn yn ôl.

“Rydym wedi profi yn y gorffennol ein bod ni’n medru ymdrechu i gymryd ein cyfran deg o ffoaduriaid ymhob ardal o Gymru, ac mae’r ffigyrau hyn yn dangos patrwm siomedig. Os ydi Cymru yn ymroddedig tuag at fod yn genedl o noddfa, mae’n hanfodol fod pob Awdurdod Lleol yn ymdrechu i gymryd ein cyfran deg o ffoaduriaid sydd yn ffoi o’r rhyfel cartref.”

 

DIWEDD