Cerdd arbennig i daclo newid hinsawdd

Datganiad gan glymblaid Atal Anrhefn Hinsawdd Cymru

Mae Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru wedi ysgrifennu cerdd arbennig ar gyfer ymgyrch clymblaid Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru; ‘Dangos y Cariad’.

Mae’r gerdd yn trafod tueddiad diweddar unigolion sydd mewn pŵer i wadu a diystyru yn gyhoeddus fod newid hinsawdd yn digwydd. Mae’r cyfnod hwn yn un cythryblus wrth ystyried y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Mae’r gerdd yn annog pobl i herio’r arweinwyr a’r bobl sy’n gwadu newid hinsawdd, er mwyn sicrhau dyfodol tegach i’r cenedlaethau sydd i ddod.

Mae’r ymgyrch #DangosYCariad yn annog pobl i ddangos cariad at yr hyn y maent am ei amddiffyn rhag newid hinsawdd, yn ogystal ag annog pobl i rannu’r neges trwy ymuno a Thunderclap, a thrwy gymryd rhan mewn gweithgaredddau lleol.

Meddai Haf Elgar, Cadeirydd y glymblaid:

“Mae newid hinsawdd yn mynd i effeithio’r llefydd ar pethau rydym ni’n eu caru, a rydym yn gyrru neges gryf ag unedig bod yn rhaid i ni amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol a lleihau ein allyriadau newid hinsawdd, er lles Cymru a’r blaned.

 

‘Mae’n wych i gael Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, i ymuno â ni i ledaenu’r neges fod y wyddoniaeth yn glir; mae cynhesu byd eang yn digwydd nawr ac mae’n rhaid i ni ei daclo, yng Nghymru ac ar draws y byd.”

 

Mae Bardd Cenedlaethol Cymru yn lysgennad diwylliannol ac yn rôl sy’n anrhydeddu rhai o’n hawduron mwyaf arloesol ac uchel eu parch. Gweinyddir y cynllun gan Llenyddiaeth Cymru.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Rydym yn hynod falch fod Ifor ap Glyn, fel Bardd Cenedlaethol Cymru, wedi cael y cyfle i gyfrannu yn greadigol at ymgyrch sy’n codi ymwybyddiaeth am rai o bryderon mwyaf ein cenedl heddiw, a galw arnom i arfogi’n hunain â ffeithiau.”

Taeru dŵr yn rhew

Ai doeth i ni ymddiried mwy  
Mewn rhai sydd, erbyn hyn,
Yn taeru dŵr yn ôl yn rhew,
Yn taeru du yn wyn?

Yn taeru’r mŵg yn ôl i’r glo
Fel stori blant gyffrous?
Cyn mynnu mai ‘newyddion ffug’
Yw unrhyw leisiau croes…

Totalitariaeth gwybodaeth
Sy’n sawru o’r ’30au:
– Onid yw cau y we i lawr
‘Run peth â llosgi llyfrau?

Ac felly’r cefnog, cofied hyn
Wrth drin ein byd fel pêl:
– Yr unig elw sydd o werth
Yw’r un i’r oes a ddêl…

A threch gwlad nac Arlywydd
Os safwn dros y gwir
Ac uno, er mwyn plant ein plant:
– Mae’r ffordd ymlaen yn glir,

Rhaid herio holl ‘newyddion ffug’
San Steffan a’r Tŷ Gwyn;
Ni chân nhw daeru dŵr yn rhew,
Na thaeru du yn wyn.

 

DIWEDD