Gwirfoddolwraig hirdymor Oxfam o Abertawe yn ymweld â Gwlad Groeg ar ben-blwydd Oxfam yn 75

Cafodd gwirfoddolwraig o siop Oxfam yn Stryd y Castell, Abertawe ei dewis i ymweld â gwaith Oxfam i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Ngwlad Groeg ar gyfer pen-blwydd Oxfam yn 75 mlwydd oed, sydd yn digwydd heddiw.

Cafodd Bethan Havard ei dewis, ynghyd a thri o wirfoddolwyr eraill, sydd gyda bron i 60 blwyddyn o wasanaeth rhyngddynt.

Dewiswyd y grŵp o bob cwr o’r DU i weld pa effaith a gaeth yr arian a roddwyd i Apêl Argyfwng Ffoaduriaid Oxfam, sydd hefyd yn darparu cymorth i bobl o Syria, Jordan, Lebanon ag Iraq.

Mae Bethan Havard, sy’n 55 ac o Abertawe, wedi gwirfoddoli yn siop Oxfam yn Stryd y Castell ers dros 10 mlynedd. Enillodd y siop wobr genedlaethol yn 2014 oherwydd y croeso y mae’r siop wedi ei roi i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a thrwy hyn wedi cael ei enwi’n Siop o Noddfa. Ymunodd â Margot Edwards, 83 o Gravesend, Amelia Egan, 75 o Glasgow, a Tom Kelly, 66 o Lerpwl i deithio i wersylloedd a chanolfan gymunedol yng ngogledd orllewin Gwlad Groeg i weld effaith a dylanwad gwaith Oxfam yno, a chwrdd â phobl y mae Oxfam yn ei gefnogi.

Sefydlwyd Oxfam fel Oxford Committee for Famine Relief yn Hydref 5ed 1942, gan alw ar y Pwerau Cynghreiriol i leihau’r blocâd yn ystod yr Ail Ryfel Byd fel bod bwyd a chymorth yn cael ei gludo i Wlad Groeg ac ardaloedd eraill o Ewrop. Ers hynny mae Oxfam wedi tyfu i fod yn fudiad byd-eang sydd yn gweithredu mewn 90 gwlad er mwyn diweddu tlodi a dioddefaint. Y flwyddyn ddiwethaf, helpodd Oxfam dros 22 miliwn o bobl ar draws y byd.

Dywedodd Bethan Havard: “Dyma’r tro cyntaf i mi ymweld â gwaith Oxfam, ac mae hi wedi bod yn brofiad ysbrydoledig i weld sut y mae’r arian sydd wedi cael ei gasglu yn ystod Apêl Argyfwng Ffoaduriaid wedi cael ei wario. Rydym ni wedi cyfarfod cymaint o bobl ac mae hi wedi bod yn brofiad anodd i glywed fod yna gymaint o bobl ifanc wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu rhieni, ac sydd heb unrhyw syniad o bryd y byddent yn eu gweld eto.”

Dywedodd Andrew Horton, pennaeth Masnachu Oxfam: “Gwirfoddolwyr sydd yn cadw’n siopau i fynd. Y flwyddyn ddiwethaf, fe lwyddodd ein siopau i godi dros £17 miliwn i helpu i ymladd tlodi ag anghyfiawnder ar draws y byd. Rydym ni eisiau cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae gwirfoddolwyr yn ei roi o ddydd i ddydd. Mae’r trip i hwn i Wlad Groeg wedi rhoi’r cyfle i bedwar o wirfoddolwyr gwych i weld effaith eu cefnogaeth a’u cyfraniadau, ac yn ffordd wych i ni i ddangos pa mor bwysig yw’r rôl y mae’r gwirfoddolwyr yn ei chwarae i wneud
Oxfam yn fudiad mor bwysig.”

Ers mis Hydref 2015, mae Oxfam wedi helpu dros 100,000 o bobl sydd yn sownd ar dir mawr Groeg ag ynys Lesvos, ac sydd heb ddŵr glân, cysgod, glanweithdra, bwyd, pecynnau hylendid a lleoliadau diogel i ferched a phlant bregus.

Mae’r degau ar filoedd o deuluoedd sydd wedi ffoi o drais, erledigaeth a thlodi sydd yng Ngwlad Groeg yn gorfod byw mewn llochesau dros dro. Mae llawer wedi cael eu gorfodi i wahanu oddi wrth eu teuluoedd, ac yn gorfod byw heb sicrwydd y byddent yn cael eu halltudio neu’n cael aduno a’u teuluoedd. Mae Oxfam yn ymgyrchu dros hawliau teuluoedd ffoaduriaid sydd wedi cael eu gwahanu.

I gyfrannu tuag at waith Oxfam yng ngwlad Groeg ewch i oxfam.org.uk/Greece

DIWEDD