Y Cymry yn Ffafrio Cerdyn

Mae ymchwil newydd yn dangos bod yn well gan y Cymry dderbyn cerdyn Nadolig na neges destun neu ebost yn dymuno Hwyl yr Ŵyl.

Er gwaetha’r holl dechnoleg a’r ffyrdd amryw sydd bellach ar gael i anfon neges yn ystod y tymor ewyllys da, mae’r mwyafrif ohonom – 84% – dal yn ysu i dderbyn cerdyn Nadolig trwy’r post.

Mae 60% o Gymry yn dal i gredu mai anfon cerdyn Nadolig yw’r ffordd fwyaf addas o anfon cyfarchion yn ystod y Nadolig. Ac mae 12% yn cyfaddef y bydden nhw wedi eu siomi petai rhywun yn anfon neges atynt ar y cyfryngau cymdeithasol yn hytrach na cherdyn yn y post.

Mae Elen Jones o Borthcawl yn prynu ei chardiau Nadolig o siop Oxfam yn flynyddol.

“Mae gen i ffrindiau, teulu a chydweithwyr sydd ddim ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn hoffi’r broses draddodiadol o anfon a derbyn cerdyn, ac mae’n rhaid i mi barchu hynny,” meddai Elen.

“Dwi’n hoffi mynd i Oxfam i gael fy nghardiau dwyieithog a gwybod fy mod yn cyfrannu at elusen bwysig ar adeg pwysig o’r flwyddyn. Mae dewis da o gardiau i’w cael yn Oxfam, rhai traddodiadol a modern, a ieithoedd gwahanol hefyd sy’n bwysig i mi. A dwi’n edrych ymlaen i eistedd wrth y tân gyda gwydriad wrth sgwennu fy negeseuon bob blwyddyn. Mae’n ddefod erbyn hyn.”

Mae cardiau Nadolig dwyieithog ar gael yn siopao Oxfam ledled Cymru.

Meddai Fee Gilfeather, Pennaeth Profiad Cwsmer yn Oxfam a gomisiynodd yr ymchwil:

“Pan mae’n dod at gyfnod y Nadolig rydym ni’n hoff o’n traddodiadau ac mae’r ymchwil yma’n dangos ein bod ni’n gytun pan mae’n dod ar gardiau Nadolig hefyd. Does dim curo neges bersonol wedi ei sgwennu â llaw. Ac wrth gwrs mae’r cardiau Nadolig hefyd yn addurniadau wedi iddynt gael eu hongian adref.

“Ac yn wahanol i rai cardiau Nadolig elusenol, mae’r holl elw sy’n cael ei wneud wrth werthu cardiau Nadolig Oxfam yn mynd at achos da – taclod tlodi yma yng Nghymru ac ar draws y byd.”

Ar gyfartaledd mae pobl ledled Prydain yn anfon 23 cerdyn bob blwyddyn, ac yn treulio 45 munud yn eu hysgrifennu nhw. Roedd un o bob pedwar ledled Prydain hefyd yn dweud eu bod yn defnyddio’r cerdyn Nadolig fel cyfle i anfon negeseuon hirach gan adrodd hanes y flwyddyn wrth deulu a ffrindiau nad ydynt yn eu gweld mor aml a hynny. Mae’n ffordd dda o gadw mewn cysylltiad.

Ond nid yw Hwyl yr Ŵyl yn cyrraedd pawb; mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod 7% o Gymry wedi cael gwared ar ffrindiau ar y cyfryngau cymdeithasol am iddynt beidio anfon neges Nadoligaidd atynt!

Ychwanegodd Mrs Gilfeather o Oxfam:

“Eleri eto mae siopao Oxfam yn llawn o gardiau Nadolig prydferth sydd wedi eu dewis yn ofalus ar eich cyfer – ar gyfer pob pwrs a phob chwaeth – rhai doniol a rhai cywraig.

“Y llynedd roedd elw gwerthiant cardiau Nadolig Oxfam yn ddigon i helpu plant oedd yn dioddef o ddiffyg maeth yn Niger. Bellach mae dŵr glân a saff nawr yn llifo trwy eu cymunedau, er mwyn sicrhau bod y plant hyn yn tyfu’n iach am flynyddoedd i ddod.

“Nawr yn gwybod nawr bod modd i’ch ewyllys da godi calonnau a gobaith I’ch teulu a’ch ffrindiau, ac i’r bobl mae Oxfam yn eu cefnogi ar draws y byd.”

DIWEDD


Nodiadau 

Holwyd 2000 o bobl sy’n dathlu’r Nadolig ar gyfer yr ymchwil hwn, 101 ohonynt yn Gymry.

Mae gan Oxfam 23 siop yng Nghymru. I ddod o hyd i’ch siop leol chwiliwch yma:  https://www.oxfam.org.uk/shop/shop-finder