Nid y twrci, na’r anrhegion na’r ffilmiau Nadolig; yn hytrach mae’n debyg mai gwir ystyr y Nadolig i’r rhan fwyaf o bobl yw’r teulu.
Mae arolwg newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod dros ddwy ran o dair o Gymry yn credu mai treulio amser gyda’r teulu yw’r rhan pwysicaf o’r Nadolig.
Holwyd 2,000 o oedolion ledled Prydain ar gyfer y pôl a gomisiynwyd gan Oxfam a hynny ochr yn ochr a’u hymgyrch i newid rheolau ailuno teuluoedd y Swyddfa Gartref.
Mae rheolau mewnfudo cyfredol yn golygu nad oes modd i blentyn sy’n iau na 18 oed ac sydd wedi cyrraedd yma ar ôl ffoi ddod a pherthynas hŷn gyda nhw. O ganlyniad, bydd nifer fawr o blant sydd wedi ffoi trais ac wedi cyrraedd Prydain ar eu pen eu hunain yn treulio’r Nadolig heb eu teuluoedd eleni. Mae hyn yn gynnwys oddeutu 27 o blant sydd wedi cyrraedd Prydain ar eu pen eu hunain ac sydd bellach yn byw yng Nghymru.
Doedd 70% o’r Cymry a holwyd ddim yn gwybod bod gan blant sydd wedi cyraedd Prydain eu hunain ar ôl ffoi trais ddim hawl i ddod a rhiant neu berthynas hyn gyda nhw.
Nid yw’n syndod bod hanner y bobl a gymerodd ran y pôl yn dymuno treulio mwy o amser gyda’u teuluoedd, a 32 y cant yn dibynnu arnynt er mwyn cael teimlad o berthyn, ac un o bob tri eu hangen ar gyfer cefnogaeth emosiynol.
Mae un o bob pump yn hoffi cyswllt agos gyda’r teulu er mwyn cael teimlad o sefydlogrwydd, 51 y cant dim ond am fwynhau cwmni eu teulu, a 23 y cant yn dibynnu arnynt am gyngor.
Meddai Kirsty Davies-Warner, Pennaeth Oxfam Cymru: “Mae’r rhan fwyaf o oedolion yn dal i ddibynnu ar ei teulu mewn rhyw ffordd a tydyn nhw ddim yn ei cymryd yn ganiataol.
“Yn anffodus, mae ein rheolau cyfyngol yn golygu nad oes gan ffoaduriaid yr un rhyddid â ni pan mae’n dod at ddewis pa aelodau agos o’r teulu maen nhw’n ei weld – ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym am ei weld yn newid.
“Dychmygwch petai eich teulu wedi eu caethiwo mewn gwlad a’u bywydau yn y fantol bob un diwrnod. Byddai ffoaduriaid sy’n byw ym Mhrydain yn gwneud unrhyw beth i gael gweld eu teuluoedd eto ac mae ein rheolau anheg ni yn eu cadw arwahan.”
Prydain a Denmarc yw’r unig wledydd yn yr Undeb Ewropiaidd sydd ddim yn caniatáu i blant sydd wedi teithio ar eu pennau eu hunain ac sydd wedi cael statws ffoadur neu ddiogelwch dyngarol i ddod ac aelodau agosaf eu teulu gyda nhw.
Yn ôl amcangyfrifiad gan Oxfam ym mis Medi eleni, erbyn i Brexit ddigwydd ym mis Mawrth 2019 mae’n bosib y bydd hyd at 6,500 o deuluoedd yn gorfod byw arwahan oherwydd rheolau aduno.
Mae Oxfam yn galw ar Lywodraeth Prydain i sefyll fel un gyda phobl sy’n cael eu gorfodi i ffoi rhag trais a thrychinebau, a helpu i wneud yn siŵr eu bod nhw’n cael y cymorth sydd ei wir angen arnynt i ail afael yn eu bywydau. Un ffordd syml y gall Llywodraeth Prydain helpu yw trwy ei gwneud hi’n haws i ffoaduriaid ailymuno gyda perthynas sydd eisoes yn y DU.
DIWEDD
Nodiadau i’r golygydd
Cynhaliwyd pôl Teuluoedd Oxfam gan OnePoll.Com. Comisiynwyd pol Oxfam o 2,000 o oedolion (105 o Gymru) ochr yn ochr â’u hymgyrch i newid rheolau’r Swyddfa Gartref sy’n gwahardd plant sy’n ffoaduriaid sydd wedi cyrraedd Prydain ar eu pen eu hunain rhag dod a pherthynas gyda nhw, ac yn cyfyngu ffoaduriaid sy’n oedolion ac y Mhrydain rhag ail ymuno gyda’i priod neu blant sydd o dan 18.
Cyhoeddwyd adroddiad o’r enw ‘Ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru’ gan Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cynulliad Cymru, sy’n nodi bod tua 27 o Blant yn ceisio lloches ar eu pennau eu unain (UASC) yng Nghymru’. Cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Ebrill 2017.