Ffoaduriaid Rohingya yn dweud na fyddent yn dychwelyd i Myanmar heb hawliau cyfartal

Mae ffoaduriaid Rohingya sydd wedi cael eu cyfweld gan Oxfam ym Mangladesh yn dweud nad fyddent yn dychwelyd i Fyanmar tan y bydd eu diogelwch wedi’i gadarnhau, ac y byddent wedi cael hawliau cyfartal, gan gynnwys yr hawl i weithio a thrafaelio.

Mae llawer – yn enwedig merched – yn dioddef o drawma difrifol oherwydd eu profiadau, sydd yn cynnwys trais rhywiol a gweld eu hanwyliaid yn cael eu lladd. Mae llawer hefyd yn dweud y byddent yn cyflawni hunanladdiad os byddent yn cael eu hail-ddychwelyd yn orfodol cyn i’r gofynion gael eu gosod.

Nid yw’r ffoaduriaid yn fodlon dychwelyd heb y sicrhad fod y gofynion yn cael eu gweithredu, er gwaetha’r ffaith eu bod yn teimlo’n anniogel yn y gwersylloedd ffoaduriaid sydd bellach yn orlawn, a ble mae ofn gwirioneddol o herwgipio a cham-drin rhywiol.

Fe siaradodd Oxfam gyda mwy na 200 o ffoaduriaid Rohingya sy’n byw mewn gwersylloedd dros dro yn Ne-ddwyrain rhanbarth Cox’s Bazar. Mewn cyfres o drafodaethau grŵp a chyfweliadau manwl, fe wnaeth pawb gytuno fod heddwch a hawliau cyfartal yn rhagofynion gwbl hanfodol er mwyn dychwelyd.

Dywedodd y ffoadur 20 oed, Fatima Sultan*: “Rydw i eisiau mynd yn ôl adref –  pan gawn ein trin fel dinasyddion, pan nad oes trais, pan na fydd merched yn cael eu treisio a’u herwgipio, pan fyddwn o’r diwedd yn rhydd”. Ychwanegodd Sanjida Sajjad*: “Os ydyn ni’n cael ein gorfodi yn ôl, fe wnawn ni roi ein hunain ar dân”.

Yn ddiweddar, cytunodd Bangladesh a Myanmar i ddechrau ail-ddychwelyd ffoaduriaid Rohingya ar ddiwedd mis Ionawr. Mae Oxfam wedi rhybuddio nad yw’r amodau i bobl i ddychwelyd yn ddiogel ac yn wirfoddol heb gael eu gosod eto, ac y dylai’r Cenhedloedd Unedig arwain y ffordd mewn unrhyw broses o ail-ddychwelyd, gyda chymorth dyngarol yn cael ei ganiatáu i unrhyw un sydd ei angen.

Mae Oxfam yn galw ar awdurdodau Myanmar i weithredu i roi terfyn ar y trais a chydymffurfio â’u hymrwymiad i weithredu’r argymhellion o adroddiad Comisiwn Rakhine dan arweiniad Kofi Annan. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gan bob person ym Myanmar hawliau cyfartal. Mae angen i ddychweliadau fod yn ddiogel a gwirfoddol, gyda rhyddid gwarantedig. Mae ymchwiliadau annibynnol i droseddau hawliau dynol yn hanfodol, gyda’r rhai sy’n gyfrifol yn dod gerbron llys, yn ogystal ag iawndal am dir a gollwyd.

Mae’r asiantaeth ryngwladol yn dweud bod yr argyfwng presennol, sydd wedi achosi i 626,000 o bobl Rohingya ffoi i Fangladesh mewn 100 diwrnod, yn drobwynt a ddylai sbarduno’r gymuned ryngwladol i ddod o hyd i ateb parhaol.

Dywedodd Paolo Lubrano, rheolwr dyngarol Oxfam yn Asia: “Roedd y bobl y siaradon ni â nhw yn dioddef o drawma difrifol oherwydd yr hyn yr oeddent wedi bod drwyddo, ac yn awr maent yn wynebu peryglon newydd yn y gwersylloedd, o fasnachu pobl i gam-drin rhywiol. Mae’r ffaith bod llawer o ffoaduriaid – yn enwedig merched – yn dweud y byddent yn lladd eu hunain yn hytrach na dychwelyd i Fyanmar yn dangos yr angen brys am ateb go iawn a hirdymor i’r ormes sydd wedi parhau ers degawdau i’r boblogaeth Rohingya.

“Mae’r gymuned ryngwladol wedi methu a chefnogi cenedlaethau o bobl Rohingya, tra bod y boblogaeth wedi dioddef ymosodiadau a gormes systematig. Yn hytrach na gadael i’r troseddau hyn ddigwydd, dylai’r Cenhedloedd Unedig ac arweinwyr y byd gymryd eu siâr o’r cyfrifoldeb gan weithio gyda llywodraethau Myanmar a Bangladesh i ddod o hyd i ddatrysiad hirdymor i’r argyfwng, trwy ddiplomyddiaeth, cymorth brys a chefnogaeth datblygu.”

Bellach mae bron i filiwn o ffoaduriaid Rohingya ym Mangladesh – mwy nag sydd ym Myanmar. Mae apêl y Cenhedloedd Unedig ar gyfer arian i ddarparu cymorth dyngarol ar gyfer y tri mis nesaf yn dal i fod yn $280 miliwn yn fyr. Mae ffoaduriaid yn byw mewn gwersylloedd gorlawn, sy’n agored i afiechydon a lleoliadau peryglus sydd angen eu gwella ar frys, ac mae llawer yn yfed dŵr llygredig. Mae Oxfam yn darparu cymorth gan gynnwys dŵr glân a thoiledau, ac mae hyd yn hyn wedi cyrraedd dros 185,000 o bobl.

Dywedodd yr holl ffoaduriaid wnaeth siarad hefo Oxfam nad oeddent yn teimlo yn ddiogel yn y nos. Roedd llawer o ferched yn ofni cael eu colli yn y gwersylloedd ac yn teimlo na allant adael eu pebyll heb ddillad priodol. Mae angen mwy o oleuadau, arwyddion a mannau diogel dynodedig yn y gwersylloedd i amddiffyn pobl sy’n agored i niwed.

DIWEDD

Nodiadau i’r Golygydd

  • *Mae’r holl enwau wedi cael eu newid