Byddwch yn rhan o ffilm Diwrnod Rhyngwladol y Merched Oxfam Cymru

Mae heddiw yn nodi 100 mlynedd ers i ferched gael hawl i bleidleisio. 

Pa mor bell ydym ni wedi dod ers hynny? Sut mae pethau wedi newid? Sut beth yw bod yn ferch yng Nghymru heddiw? Beth yw’r heriau? A beth sydd dal yn ddim ond breuddwydion?

Er bod llawer o ddatblygiad wedi bod yn y frwydr yn erbyn tlodi yn ystod y degawd diwethaf, mae miliynau o ferched dal yn byw mewn tlodi ac ofn.

Nid yw merched yn cael chwarae teg yma yng Nghymru chwaith:

  • Merched sy’n gwneud 80% o swyddi rhan amser ac mae 75% o’r swyddi hynny yn rhai sy’n draddodiadol â chyflogau isel (gwaith gweinyddol, lletygarwch ac ati)
  • Mi fyddai’n cymryd 100 mlynedd i gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau
  • Mae 24.9% o holl weithwyr Cymru yn ennill llai na’r cyflog byw (£8.75 yr awr) ac mae 63% o’r rheiny yn ferched

Felly mae angen newid yma yng Nghymru. Dro ar ôl tro rydym wedi gweld sut mae merched sy’n cael addysg, yn ennill cyflog teg ac yn mwynhau byw bywydau annibynnol yn medru dianc o fyd o dlodi – gan fynd a’u teuluoedd a’u cymunedau gyda nhw.

Felly i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched eleni rydym eisiau clywed eich llais chi! Helpwch ni i wneud fideo fydd yn dangos beth sydd angen newid ar gyfer merched yng Nghymru gan anfon clip byr o’ch hun yn ateb y cwestiynau canlynol:

1) Beth yw’r heriau o fod yn ferch yng Nghymru heddiw?

2) Beth yw’r un peth y byddech chi’n ei newid i wneud Cymru yn well i ferched? (e.e gofal plant, cyflog teg, gwell trafnidiaeth cyhoeddus, gwell gwasanaethau yn lleol ayyb)

3) Wrth edrych yn ôl, pa gyngor cadarnhaol fyddech chi’n ei roi i chi’ch hun yn 10 oed? (e.e paid â bod ofn, mi wyt ti YN ddigon da, Dyfal donc…)

4) Wrth edrych ymlaen, pa un gair neu frawddeg fyddet ti’n ei ddewis i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ferched yng Nghymru? (e.e tegwch, cyfiawnder, pŵer, llais)

Byddwch yn bersonol! Rydym eisiau clywed ganddoch CHI!

Gallwch ffilmio’r clip ar eich ffôn neu ofyn i ffrind ffilmio i chi. Peidiwch â phoeni, does dim angen iddo fod yn berffaith! Fe allwn ni ei olygu a dod a’r cwbl at ei gilydd.

Mae croeso i chi recordio’r clip yn Gymraeg. Rydym eisiau clywed gan bawb yn eu mamiaith.

Diolch o galon! Byddwn yn siŵr o rannu’r ffilm gyda chi ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched (8fed o Fawrth 2018)

Plîs anfonwch eich clipiau fideo at Casia: cwiliam1@oxfam.org.uk neu anfonwch nhw at Oxfam Cymru trwy Facebook (Oxfam Cymru) neu Twitter @OxfamCymru