Rosemary yn gwagio’r cwpwrdd ac yn rhoi’r arian mae hi wedi ei arbed i Oxfam

Penderfynodd Rosemary Newman o Gaerdydd fyw ar y bwyd oedd ganddi yn ei chypyrddau trwy gydol y grawys, er mwyn codi arian ar gyfer Oxfam.

Gosododd Rosemary her iddi hi ei hun o beidio prynu unrhyw fwyd ond yn hytrach i fyw ar yr hyn oedd ganddi yn ei chypyrddau, ei rhewgell a’i hoergell, dros chwe wythnos y grawys.

Wrth wneud hynny fe arbedodd £400 ac mae hi wedi rhoi’r arian i Oxfam.

“Rydw i’n falch o fy syniad, meddai Rosemary, oedd yn awyddus i ddangos ei chefnogaeth i’r elsuen. “Wnaeth o ddim costio ceiniog i mi ac mae wedi gwneud i mi sylweddoli gymaint yr ydym ni’n ei gymryd yn ganiatâol o ddydd i ddydd.

“Dim ond ychydig o arian ydy hyn i Oxfam, ond mi wnes i arbed gymaint â hynny heb aberthu dim. Ac mae’n golygu fy mod wedi gallu dadmer y rhewgell – gwych!

“Roeddwn i’n awyddus i ddangos fy mod dal i gefnogi Oxfam a’r holl waith da maen nhw’n ei wneud ledled y byd.”

Meddai Kirsty Davies-Warner, Pennaeth Oxfam Cymru:

“Rydym yn hynod o ddiolchgar i Rosemary am ei rhodd hael. Dim ond gyda chefnogaeth Rosemary a chefnogwyr eraill y gall Oxfam barhau i gefnogi pobl dlota’r byd gyda’r help mae nhw ei angen. Diolch – allwn ni ddim gwneud hyn hebddoch chi.”

Bydd rhodd ariannol Rosemary yn mynd tuag at Apêl Syria Oxfam. Mae chwe mlynedd o frwydro wedi distrywio Syria, gwlad oedd yn ffynnu cyn hynny, gwlad incwm canolig cyn dechrau’r brwydro yn 2011.

Mae mwy na 300,000 o bobl wedi eu lladd, 11 miliwn o bobl wedi ffoi o’u cartrefi a miliynau yn rhagor angen help.

Am ragor o wybodaeth am waith Oxfam yn Syria ewch i:

https://www.oxfam.org.uk/what-we-do/emergency-response/syria-crisis