‘Rydw i’n teimlo fel fy mod i’n rhoi rhywbeth yn ôl i gymdeithas trwy wirfoddoli yma’

Mae yna siopau Oxfam ar draws y wlad, ac mae pob un yn chwarae rhan allweddol yn yr ymgyrch i roi terfyn ar dlodi.

Mae pob un llyfr, CD a finyl a gaiff ei werthu yn helpu i ariannu ein gwaith byd-eang, o osod pympiau dŵr glân a lloches mewn gwersylloedd ffoaduriaid i rymuso merched ar draws y byd i ddod o hyd i lwybr allan o dlodi. Mae’n siopau yn hanfodol, ac yn helpu merched, dynion a phlant ar draws y byd mewn amryw o ffyrdd anhygoel.

Ni fyddai siopau Oxfam yn medru gwneud hyn heb wirfoddolwyr, ac mae pob un siop yn llawn o wirfoddolwyr gwych ag ymroddedig, gyda’u gwahanol straeon a chefndiroedd diddorol. Dyna pam yr es i i siop Oxfam ym Mhenarth, i gyfarfod Keith Howells, gwirfoddolwr ers dros 10 mlynedd, i siarad am ei brofiadau.

Felly, pam y gwnaethoch chi benderfynu gwirfoddoli gydag Oxfam?

Pan fu fy ngwraig farw penderfynais fy mod i angen gwneud rhywbeth i mi fy hun, felly penderfynais i gychwyn gwirfoddoli, ag Oxfam oedd y dewis cyntaf gan fy mod wedi bod yn cefnogi’r achos ers blynyddoedd, yn enwedig gyda phethau fel Masnach Deg.

Roeddwn i’n arfer gwneud llawer hefo Masnach Deg pan yr oeddwn yn gweithio fel athro i blant byddar. Roeddwn yn mynd a nhw i’r archfarchnad yn aml i’w dysgu am ailgylchu a phlastig ac ati. Roedd hynny yn ôl yn yr 80au! Felly Oxfam oedd yr unig ddewis i mi pan benderfynais i gychwyn gwirfoddoli.

Beth ydych chi’n ei wneud yn y siop?

Fy hoff beth i’w wneud yn y siop yw bod ar y til fel fy mod i’n medru sgwrsio â’r cwsmeriaid. Dyma ble mae’n mhersonoliaeth i’n dod allan! Rydw i’n hoffi sgwrsio hefo nhw am y llyfr y maent yn ei brynu, ac rydw i’n cael pob math o sgyrsiau gyda’r cwsmeriaid.

A beth ydych chi’n ei gael allan o wirfoddoli?

Mae gwirfoddoli yma yn codi fy ysbryd. Rydw i wedi cyfarfod llawer o bobl yma, ac rydw i’n adnabod y selogion i gyd. Mae gennym ni adran gerddoriaeth arbennig yma, diolch i un o’n cyn-wirfoddolwyr, Nigel. Fe drawsnewidiodd o’r adran gerddoriaeth, mae gennym ni gymaint o finyls, CDs a thaflenni cerddoriaeth hefyd, felly mae pobl gerddorol Penarth i gyd yn dod yma i’r siop. Mae arweinydd y Gerddorfa Genedlaethol Gymreig yn galw yma hefyd. Roeddwn i’n arfer chwarae’r ffidil hefyd, felly rydw i’n mwynhau siarad gyda’r cwsmeriaid
am gerddoriaeth.

Rydw i’n teimlo fel fy mod i’n rhoi rhywbeth yn ôl i gymdeithas trwy wirfoddoli yma. Rydw i’n cael llawer allan o’r profiad ac yn teimlo fy mod yn rhoi yn ôl hefyd, ac yn cymryd balchder yn y ffaith fod y siop mor llwyddiannus.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i bobl sydd yn meddwl cychwyn gwirfoddoli?

Os oes yna rywun allan yna sy’n meddwl am gychwyn gwirfoddoli mi fuaswn i’n dweud dewch i mewn! Rhowch gynnig arni, i weld os ydych chi’n hoffi’r profiad. Mi wnewch chi lawer o ffrindiau.

Ydych chi’n teimlo fod eich gwaith chi yma yn cyfrannu at waith Oxfam ar draws y byd?

Rydw i’n hoffi meddwl ei fod o. Pan oeddwn i’n gweithio yn yr ysgol roeddwn i’n arfer meddwl am ffyrdd i gael y plant i feddwl am eu cymdogion; eu cymdogion drws nesaf ac ar y strydoedd yng Nghymru, a chymdogion ar ochr arall y byd.

Rydw i hefyd yn aelod o Ymddiriedolaeth Penarth a Lesotho. Rydw i wedi bod yn Lesotho hefyd. Ac fel cristion, mae gen i ddiddordeb yn y syniad o genhadon yn trafeilio o gwmpas y byd.

Os hoffech chi wirfoddoli mewn siop Oxfam, neu os hoffech ddysgu mwy am gyfleoedd gwirfoddoli eraill gydag Oxfam, cliciwch yma