Dod ac Wythnos Ffoaduriaid ir Dosbarth

Wythnos nesaf – rhwng 18-24 Mehefin – mae hi’n wythnos ffoaduriaid. Mae’n wythnos sy’n cael ei chynnal ledled y byd yn flynyddol, ac yn gyfle gwych i ddathlu cyfraniad ffoaduriaid ym Mhrydain, ac annog gwell dealltwriaeth rhwng cymunedau.

Dyma gyfle perffaith hefyd i drafod ffoaduriaid mewn ysgolion a cholegau. Mae rhyfel a mudo yn bynciau llosg yn y wasg ac ym myd gwleidyddiaeth, ond faint o ddealltwriaeth sydd gan ein pobl ifanc ar y pynciau hyn mewn gwirionedd?

Ydyn nhw’n gwybod sut beth yw bod yn ffoadur? Ydyn nhw’n gwybod faint o bobl ledled y byd sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi a dod yn ffoaduriaid?

Os ydym am i’n pobl ifanc ddod yn ddinasyddion effeithiol, yn lleol ac yn fyd-eang, ac i chwarae rhan hanfodol mewn byd cyfiawn heb dlodi, yna mae’n bwysig eu bod yn cael cyfle i drin a thrafod materion y byd megis yr argyfwng ffoaduriaid.

Mae gan Oxfam nifer o adnoddau ar gael i helpu athrawon gynnal gwersi a hwyluso trafodaethau ar y pwnc. Ond yn gyntaf, os hoffech chi fel athro deimlo’n fwy hyderus cyn cychwyn, beth am ddarllen ‘Refugees: Teachers’ Overview’, neu ein canllaw i ddysgu materion dadleuol, sy’n cynnwys ffeithiau, gwybodaeth, cyngor a syniadau ar sut i gynnal gwersi ar y
pwnc.

Yna yn y dosbarth, gallwch ddefnyddio lluniau, straeon, a ffeithiau i ddatblygu empathi a chynyddu dealltwriaeth y disgyblion ar faterion sy’n wynebu ffoaduriaid. Cliciwch yma i weld rhai o’r adnoddau sydd ar gael, gan gynnwys cwis, helfa drysor a gwasanaeth parod, i alluogi eich ysgol gyfan i fod yn rhan o Wythnos Ffoaduriaid 2018.

Os ydych chi yn cynnal gwasanaeth neu wersi am ffoaduriaid yn eich ysgol neu goleg yn ystod Wythnos Ffoaduriaid byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Anfonwch neges neu lun atom at Twitter @OxfamCymru neu anfonwch eich hanes ar ebost at oxfamcymru@oxfam.org.uk

Llun – Hawlfraint: Tommy Trenchard / Oxfam
Ffoaduriaid Rohingya yn cysgodi rhag yr haul gan aros am barseli bwyd mewn ciw yng Ngwersyll Balukhali.