Amserlen Digwyddiadau Clymblaid Ffoaduriaid Cymru yn yr Eisteddfod

Digwyddiadau Stondin Clymblaid Ffoaduriaid Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd



Bydd pob digwyddiad yn cychwyn am 11.00am 
Stondin 105 – Ardal Crefft yn y Bae

Bydd y digwyddiadau yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg, gydag ambell berson yn cyfrannu yn eu mamiaith
Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda Casia Wiliam yn Oxfam Cymru – cwiliam1@oxfam.org.uk / 07887 571687

Dydd Sul

5 Awst

Gwersi Cymraeg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches: cyfle i glywed gan yr athro a’i ddisgyblion

Yn y sesiwn hon bydd Matt Spry, sydd yn dod o dde-orllewin Lloegr yn wreiddiol ac wedi dysgu siarad Cymraeg, yn sgwrsio am ei brosiectau sy’n mynd ati i ddysgu Cymraeg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Bydd cyfle i glywed gan nifer o ddisgyblion Matt yn ystod y sesiwn, a bydd sesiwn holi ac ateb ar y diwedd.

Dydd Llun

6 Awst

Gweithdy ‘sgyrsiau anodd’ gyda HOPE not Hate

Ydych chi erioed wedi cael sgwrs am hiliaeth neu fewnfudo gyda ffrind, aelod o’r teulu neu gydweithiwr, ac wedi teimlo braidd yn lletchwith? Ydych chi erioed wedi gweld anffafriaeth hiliol neu drosedd casineb a heb wybod sut i ymateb?

Mae HOPE not hate – ymgyrch gwrth-eithafiaeth mwyaf Prydain – yn eich gwahoddiad i gymryd rhan yn y sesiwn hon ar ‘sut i gael sgyrsiau anodd’ a ‘sut i ymateb i ddigwyddiad casineb’. Bydd y gweithdy yn eich arfogi gyda’r sgiliau sydd eu hangen i oresgyn yr heriau hyn ac i fod yn fwy hyderus wrth drafod materion anodd.

Dydd Mawrth

7 Awst

Seren Jones mewn trafodaeth gydag Eric Ngalle Charles

Seren Jones, newyddiadurwr gyda’r BBC World Service (Zimbabwe, Taid a Fi) yn sgwrsio gydag Eric Ngalle Charles am ei daith o Gamwrŵn i Gymru a’i brofiad o’r system fewnfudo. Daeth Eric i Gaerdydd yn 1999 wedi iddo ffoi erledigaeth o’i bentref. Am nifer o flynyddoedd roedd yn gaeth yn y broses o geisio am loches, yn ddigartref, ac yn methu symud ymlaen efo’i fywyd. Bellach mae wedi cael Caniatâd i Aros, mae wrthi’n gwneud enw iddo’i hun fel bardd, dramodydd, nofelydd a Chymrawd i Gymru Greadigol.

Dydd Mercher

8 Awst

Croeso Teifi: sut i godi nawdd bro i groesawu ffoaduriaid

Dechreuodd nawdd bro ar gyfer ffoaduriaid nôl ym Mehefin 2016. Erbyn diwedd y flwyddyn hon bydd 25 o deuluoedd wedi eu croesawu i Gymru trwy nawdd bro – naw o’r rhain i Gymru. Yn y sesiwn hon bydd Vicky Moller a Philippa Gibson yn trafod eu profiad nhw o godi nawdd bro ar gyfer ffoaduriaid gyda Croeso Teifi. Bydd y sesiwn yn llawn gwybodaeth ymarferol, a hanesion teimladwy am y teuluoedd sydd wedi cael croeso twymgalon yn Aberteifi. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn croesawu ffoaduriaid i’ch ardal
chi – da chi peidiwch â cholli’r sesiwn hon.

Dydd Iau

9 Awst

Cerddoriaeth yn croesi ffiniau: yng nghwmni Gareth Bonello ac Ahmed Abdullah Adam

Mae’r cerddor amryddawn Gareth Bonello wedi bod yn cynnig gwersi gitar i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghanolfan Oasis, Caerdydd ers dros ddwy flynedd bellach. Yn ystod y sesiwn hon bydd yn trafod ei brofiad yno ac yn perfformio gyda Ahmed Abdullah Adam. Daw Ahmed o’r Swdan yn wrieddiol, ac mae wedi cael gwersi gitar wythnosol yn Oasis ers blwyddyn a hannar bellach, ac wedi cyrraedd safon arbennig o dda.

Dydd Gwener

10 Awst

Phylip Hughes:

Jwngl Calais

Yn y sesiwn hon bydd yr actor Phylip Hughes, sy’n adnabyddus fel Mr Lloyd ar y gyfres boblogaidd Rownd a Rownd, yn trafod ei brofiadau yn cyfarfod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn ‘Y Jwngl’ – y gwersyll ffoaduriaid yn Calais. Bu yno deirgwaith, ddwywaith gyda Care4Calais ac unwaith mewn gwersyll arall yn Calais gyda’r elusen L’Auberge des migrants. Bydd cyfle i holi cwestiynau ar y diwedd.

Dydd Sadwrn

11 Awst

Ifor ap Glyn ac Eric Ngalle Charles: Barddoniaeth Cymru a Chamerŵn

Bydd Eric Ngalle Charles ac Ifor ap Glyn yn trafod antholeg Eric – (‘Hiraeth/Erzolirzoli’ – sy’n dwyn beirdd o Gymru a Chamerŵn ynghŷd)  ac yn trafod peth ar hanes Eric yn gorfod ffoi o’i wlad. Digwyddiad Cymraeg / Bakweri gyda pheth Saesneg.