Ionawr 20, 2020
Mae gan 22 o ddynion cyfoethocaf y byd fwy o gyfoeth na’r holl fenywod yn Affrica.
Mae gan y 22 o ddynion cyfoethocaf yn y byd fwy o gyfoeth na’r 325 miliwn o fenywod yn Affrica, datgelodd Oxfam heddiw cyn Fforwm Economaidd y Byd yn Davos. Mae adroddiad newydd yn dangos sut y mae anghydraddoldeb yn parhau i fod ar lefelau argyfwng, wrth i gyfoeth gael ei werthfawrogi’n fwy na gwaith a chyfraniad menywod gael ei dan-wobrwyo.
Mae Time to Care, a gyhoeddir ar yr un diwrnod ag y mae Llundain yn cynnal Uwchgynhadledd y Deyrnas Unedig ar gyfer Buddsoddi yn Affrica, yn nodi sut y mae’r economi fyd-eang yn methu â gwobrwyo’n ddigonol y rhai sy’n cyflawni gwaith gofal – sefyllfa sy’n gwaethygu’r bwlch rhwng y cyfoethog a’r tlawd. Mae anghydraddoldeb eithafol yn dal miliynau o bobl mewn tlodi ledled y byd – er bod amcangyfrifon o ran cyfoeth pobl dlotaf y byd wedi cael eu hadolygu am i fyny eleni, mae hanner poblogaeth y byd yn parhau i fyw ar lai na $5.50 y dydd ac mae menywod yn arbennig yn cael cam.
Mae menywod a merched yn rhoi 12.5 biliwn o oriau o waith gofal di-dâl bob dydd, er enghraifft gofalu am blant a’r henoed, sy’n gyfystyr â chyfraniad o $10.8 triliwn y flwyddyn o leiaf at yr economi fyd-eang – mwy na theirgwaith maint y diwydiant technoleg byd-eang. Mae menywod, yn enwedig y rhai sy’n byw mewn tlodi, yn gwneud mwy na thri chwarter yr holl waith gofal di-dâl. Mae 42 y cant o fenywod y tu allan i’r gweithlu cyflogedig oherwydd cyfrifoldebau gofal di-dâl, o gymharu â dim ond chwech y cant o ddynion. Mae llawer mwy o bobl yn cael eu talu cyflogau tlodi am waith gofal.
Dywedodd Danny Sriskandarajah, Prif Weithredwr Oxfam GB: “Pan fo gan 22 o ddynion fwy o gyfoeth na’r holl fenywod yn Affrica gyda’i gilydd, mae’n gwbl amlwg bod ein heconomi yn hollol rywiaethol.
“Un ffordd y mae ein system economaidd wyneb i waered yn dyfnhau anghydraddoldeb yw trwy danbrisio gwaith gofal yn ddifrifol – gwaith sy’n cael ei wneud fel arfer gan fenywod, sy’n aml heb fawr ddim amser i gael addysg, ennill bywoliaeth deilwng neu gael dweud eu dweud am sut y mae ein cymdeithasau’n cael eu rhedeg, ac felly’n gaeth mewn tlodi.
“Os yw arweinwyr y byd sy’n cyfarfod yr wythnos hon o ddifrif ynglŷn â lleihau tlodi ac anghydraddoldeb, mae angen iddynt fuddsoddi ar frys mewn gofal a gwasanaethau cyhoeddus eraill sy’n gwneud bywyd yn haws i’r rheiny sydd â chyfrifoldebau gofal, a mynd i’r afael â gwahaniaethu sy’n dal menywod a merched yn ôl.”
Mae’r broblem yr un mor gyffredin yng Nghymru a gweddill y byd. Mae gofal di dal yn gyffredin ar hyd a lled Prydain, gyda tua 6.6 miliwn o bobl yn darparu gofal di dal i aelodau’r teulu, ac hefyd yn gofalu am ffrindiau, er bod hynny’n llai cyffredin. Pobl Cymru sy’n treulio mwyafrif yr amser yn darparu gofal di dal. Ar gyfartaledd, mae’r Cymry’n darparu 42 awr o ofal di dal bob blwyddyn, a hynny’n cymharu â chyfartaledd o 31 awr dros Brydain. Yn seilieidig ar gyflogau mewn sectorau tebyg, rydym yn rhagdybio bod gwerth gofal di dal yng Nghymru yn 21.6 biliwn.
Dywedodd Rachel Cable, Pennaeth Oxfam Cymru: “Mae’r anghyfartaledd yn y modd mae gofal yn cael ei ddarparu yn chwarae rol allweddol yng nghyfraddau tlodi ac angyfiawnder ar sail rhywedd. Yng Nghymru, mae gofal di dal yn cyfrannu’n aruthrol i’r economi, mae’n rhoi pwysau ar unigolion wrth edrych ar ol eu hanwyliaid ac yn cael ei gymryd yn ganiataol. Mae unigoliojn sy’n darparu gofal am ddim, ar gyfer oedolion neu blant, yn llawer mwy tebygol o fyw mewn tlodi. Mae’r sector gofal yn parhau I gael ei adnabod fel un sy’n talu cyflogau isel ac yn darparu oriau ansefydlog, ond fe wyddem bod modeli eraill yn bosibl – sy’n sicrhau bod gweithwyr yn cael eu gwobrwyo.
“Os ydy ein arweinwyr o ddifri am daclo tlodi ac anghyfiawnder ar sail rhyw, mae angen iddynt fuddsoddi yn y maes gofal ac mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill sy’n gwneud bywyd yn haws i ofalwyr, ac sy’n dal menywod a merched yn ol.
Mae adroddiad Oxfam yn tynnu sylw at y modd y mae gwaith gofal di-dâl neu am gyflog gwael yn cael ei danbrisio’n llwyr a’i gymryd yn ganiataol gan lywodraethau a busnes. Yn aml, bydd yn cael ei drin fel rhywbeth nad yw’n waith, a bydd gwariant ar ofal yn cael ei ystyried yn gost yn hytrach na buddsoddiad, gan arwain at ofal yn mynd yn angof mewn mesurau o ran cynnydd economaidd ac agendâu polisi. Mae’r adroddiad hefyd yn edrych ar rôl llywodraethau wrth danio’r argyfwng anghydraddoldeb, gan dan-drethu’n aruthrol yr unigolion a’r corfforaethau cyfoethocaf a thanariannu gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith hanfodol a allai helpu i leihau llwyth gwaith menywod a merched.
Gallai buddsoddi mewn dŵr a glanweithdra, trydan, gofal plant a gofal iechyd cyhoeddus ryddhau amser menywod a gwella ansawdd eu bywyd. Mae ymchwil Oxfam wedi dangos y gallai darparu mynediad at ffynhonnell ddŵr well arbed amser sylweddol i fenywod Affrica, er enghraifft mewn rhannau o Zimbabwe hyd at bedair awr o waith y dydd, neu ddau fis y flwyddyn.
Mae Oxfam yn annog llywodraethau i greu systemau cyllidol tecach ac i fynd i’r afael â bylchau o ran treth er mwyn cynhyrchu’r refeniw y mae ei angen i fuddsoddi mewn systemau gofal cenedlaethol a gwasanaethau cyhoeddus sy’n diwallu anghenion pawb, heb ddibynnu ar waith di-dâl ac am gyflog gwael gan fenywod.
Gallai cael yr un y cant cyfoethocaf i dalu dim ond 0.5 y cant o dreth ychwanegol ar eu cyfoeth dros y 10 mlynedd nesaf gynhyrchu digon o arian i greu 117m o swyddi, gan gynnwys 79 miliwn ym maes addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, a fyddai’n helpu i gau’r bwlch presennol o ran gofal.
Disgwylir i’r pwysau ar ofalwyr, y rhai di-dâl a’r rhai ar gyflog gwael, dyfu yn y degawd i ddod wrth i’r boblogaeth fyd-eang dyfu a heneiddio. Amcangyfrifir y bydd angen gofal ar 2.3 biliwn o bobl erbyn 2030, sef cynnydd o 200 miliwn ers 2015. Gallai newid yn yr hinsawdd gynyddu llwyth gwaith gofalwyr ymhellach; erbyn 2025, bydd hyd at 2.4 biliwn o bobl yn byw mewn ardaloedd heb ddigon o ddŵr, a bydd yn rhaid i fenywod a merched gerdded pellteroedd hirach fyth i’w nôl.
Mae cynnydd o ran darpariaeth gofal, ac o ran yr economi ddynol, yn bosibl. Mae system gofal integredig genedlaethol arloesol Uruguay wedi arwain y ffordd o ran ymgorffori’r hawl i gael gofal a’r hawl i roi gofal, yn ogystal â hawliau llafur gweithwyr gofal. Ac mae ordinhadau mewn rhannau o Ynysoedd y Philippines yn ei gwneud yn ofynnol i gynnwys gwaith gofal di-dâl mewn prosesau cynllunio a chyllidebu yn ogystal â chynyddu mynediad i ganolfannau dŵr diogel a gofal plant.
Diwedd
Nodiadau i olygyddion
Lluniau ar gael
Mae llefarwyr ar gael ar gyfer cyfweliadau yn y Gymraeg, Saesneg, Arabeg, Ffrangeg, Portiwgaleg a Sbaeneg.
Mae adroddiad, crynodeb a dogfen fethodoleg Time to Care sy’n amlinellu sut y cyfrifodd Oxfam yr ystadegau, yn ogystal â’r set ddata, ar gael yma.
Daw ffigur cyfoeth cyfun y 22 o ddynion cyfoethocaf y byd o’r biliwnyddion gwrywaidd sydd ar frig Rhestr Biliwnyddion 2019 Forbes, ac fe’i cymharir â chyfanswm cyfoeth holl fenywod Affrica sy’n 20 oed neu’n hŷn, yn unol â set ddata Credit Suisse. Mae’r cyfrifiad ar gyfer pob menyw, cyfoethog a thlawd, nid dim ond y 50 y cant tlotaf.
Mae cyfrifiadau Oxfam yn seiliedig ar y data mwyaf diweddar a chynhwysfawr. Yn 2018, cyfrifodd Oxfam fod gan 26 o bobl yr un cyfoeth â hanner tlotaf y byd. Yn 2019, y ffigur hwn yw 162. Mae’r gwahaniaeth mewn niferoedd yn bennaf oherwydd gwell amcangyfrifon gan Credit Suisse, sy’n awgrymu bod cyfoeth y 50 y cant isaf yn uwch nag a feddyliwyd yn flaenorol. Gan ddefnyddio’r amcangyfrifon newydd hyn felly, y ffigur diwygiedig ar gyfer y llynedd felly yw 155 nid 26. Gostyngodd cyfoeth y biliwnyddion hefyd yn y cyfnod a gwmpesir gan gyfrifiadau Oxfam, ond ers hynny mae wedi cynyddu’n sylweddol; mae Bloomberg newydd ddangos sut y daeth 500 o bobl y llynedd dros driliwn o ddoleri yn gyfoethocach. Er bod amcangyfrifon o ran cyfoeth cyffredinol a chyfran cyfoeth y 50% isaf yn amrywio o un flwyddyn i’r llall, mae’r darlun cyffredinol o lefelau anhygoel o anghydraddoldeb o ran cyfoeth yn parhau i fod yn syfrdanol o uchel.
Mae’r Prif Weinidog yn cynnal Uwchgynhadledd Buddsoddi Prydan ac Affrica yn Llundain heddiw. Mae Oxfam yn galw am drafodaethau ystyrlon yn ystod ac ar ol yr uwchgynhadledd, yn enwedig ymhlith sefydliadau sy’n brwydro dros hawliau menywod. Mae mewnbwn o’r fath yn hollbwysig wrth ddatblygu buddsoddiad mewn swyddi da a safonol sy’n talu cyflog teg I fenywod. Mae’n hollbwysig bod cwmniau sy’n buddosddi yn y rhanbarth yn talu’r trethi, ac nid yn defnyddio dulliau o osgoi talu treth fel cwndid am eu buddsoddiadau yn Affrica. Mae’n bwysig bod Llywodraethau Affrica yn medru buddosddi mewn gwasanaethau a system gofal genedlaethol sy’n lleihau’r bwrn a’r gofal sy’n cael ei ddarparu gan fenywod.
Am gyfweliadau Cymraeg a chyfweliadau yng Nghymru, cysylltwch â Heulwen Davies, Swyddog y Wasg a Chyfathrebu, Oxfam Cymru ar 07817591930/ hdavies1@oxfam.org.uk
Am gopi o’r adroddiad llawn, methodoleg neu am unrhyw ymholiadau gan y wasg a’r cyfryngau tu hwnt i Gymru, cysylltwch â Lisa Rutherford ar 07917 791 836 / lrutherford@oxfam.org.uk