Datganiad i’r Wasg gan Oxfam, 7 Ionawr 2020
- Bydd y Prydeiniwr cyffredin yn allyrru mwy o garbon erbyn 12 Ionawr nag y mae preswylwyr saith o wledydd Affrica yn ei allyrru mewn blwyddyn
Bydd y Prydeiniwr cyffredin yn allyrru mwy o garbon yn ystod pythefnos gyntaf 2020 nag y mae dinasyddion saith o genhedloedd Affrica yn ei allyrru mewn blwyddyn gyfan, datgelodd Oxfam heddiw wrth iddo alw ar lywodraeth y Deyrnas Unedig i arwain y ffordd o ran mynd i’r afael â’r anghyfiawnder syfrdanol sydd wrth wraidd yr argyfwng hinsawdd.
Mae ymchwilwyr wedi darganfod y bydd rhywun yn y Deyrnas Unedig yn cymryd pum niwrnod yn unig i allyrru’r un faint o garbon ag y mae rhywun yn Rwanda yn ei allyrru mewn blwyddyn gyfan. Erbyn 12 Ionawr, bydd allyriadau’r Prydeiniwr cyffredin wedi goddiweddyd yr allyriadau y pen ar gyfer chwech o wledydd eraill Affrica: Malawi, Ethiopia, Uganda, Madagascar, Guinea a Burkina Faso.
Galwodd Oxfam ar y Prif Weinidog i fanteisio ar y cyfle o gynnal Uwchgynhadledd Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig eleni trwy gymryd camau breision i gicdanio trafodaethau a sicrhau bod pryder y cyhoedd ynghylch newid yn yr hinsawdd yn cael ei drosi’n gamau gweithredu. Mae arolwg a gynhaliwyd gan YouGov ar gyfer Oxfam yn dangos bod bron dau draean (61%) o’r bobl ym Mhrydain am i’r Llywodraeth wneud rhagor i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, a bod y mwyafrif yn barod i gymryd nifer o gamau i leihau eu hôl troed carbon eu hunain.
Canfu’r arolwg fod mwyafrif clir o Brydeinwyr (55%) yn dweud eu bod yn poeni ynghylch effaith newid yn yr hinsawdd, a bod cymaint â 79% o’r bobl yn dweud eu bod yn debygol o gymryd nifer o gamau i leihau eu hôl troed carbon.
Roedd yr ymatebion yn amrywio o 79% o’r bobl yn dweud eu bod yn debygol o ailgylchu rhagor, i lawr at 38% o’r bobl a oedd yn debygol o newid eu deiet, er enghraifft trwy fwyta llai o gig neu gynnyrch llaeth. Dywedodd dros ddau draean (68%) eu bod yn debygol o ddefnyddio cynhyrchion neu ddarparwyr cyfleustodau sy’n arbed ynni, a dywedodd bron hanner eu bod yn debygol o gyfyngu eu teithiau awyr (49%) neu brynu cynhyrchion a wnaed mewn modd moesegol neu rai ail law (49%).
Dywedodd Danny Sriskandarajah, Prif Weithredwr Oxfam GB: “Mae graddfa anghydraddoldeb byd-eang o ran allyriadau carbon yn syfrdanol.
“Mae’n ergyd sylweddoli bod ein ffyrdd carbon uchel o fyw yma yn y Deyrnas Unedig yn cynhyrchu’r un allyriadau mewn ychydig ddiwrnodau ag ôl troed blynyddol pobl mewn rhai gwledydd tlawd – ond yr hyn sy’n galonogol yw parodrwydd pobl Prydain i weithredu. Gyda’i gilydd, gall y camau bychain a gymerwn gael effaith enfawr ar y cyd o ran amddiffyn pobl a’r blaned.
“Yn union fel y mae niferoedd mawr o’r cyhoedd yn addunedu i leihau eu hôl troed carbon, mae angen adduned Blwyddyn Newydd mentrus gan y Prif Weinidog i sicrhau ein bod ar y llwybr iawn i gyflawni allyriadau net o sero yn llawer cynt na’r targed cyfredol o 2050. Wrth i lywodraeth y Deyrnas Unedig baratoi i gynnal trafodaethau byd-eang ar yr hinsawdd yn ddiweddarach eleni, mae angen iddi ddangos ei bod yn gwbl o ddifrif ynghylch arwain y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.”
Yn dilyn canlyniad siomedig uwchgynhadledd hinsawdd y COP25 ym Madrid, mae gan lywodraeth y Deyrnas Unedig fynydd diplomyddol i’w ddringo cyn cynnal yr uwchgynhadledd nesaf yn Glasgow ddiwedd 2020. Mae hyn yn golygu y gallai camau breision gan y Deyrnas Unedig fod yn hanfodol o ran torri’r anghytundeb diplomyddol.
Y llynedd hefyd, amlygwyd maint yr awydd cyhoeddus am newid, wrth i 62,000 o bobl addo peidio â phrynu dillad newydd am 30 diwrnod er mwyn cefnogi ymgyrch #MisMediAilLaw Oxfam.
Yn ystod y pythefnos yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol, roedd dros 7,800 o bobl wedi llofnodi llythyr yn gofyn i’r Prif Weinidog, Boris Johnson, weithredu ar unwaith i sicrhau bod y Deyrnas Unedig ar y llwybr iawn i allyriadau net o sero yn llawer cynt na’r targed cyfredol o 2050. Mae’r llythyr hwn yn galw ar y llywodraeth i wneud hyn heb brynu gwrthbwysiadau carbon gan wledydd eraill, ac i ysgwyddo cyfrifoldeb am ôl troed carbon y genedl gyfan, gan gynnwys allyriadau o’r bwyd a’r cynhyrchion yr ydym yn eu mewnforio o’r tu allan i ffiniau’r Deyrnas Unedig. Mae hefyd yn dweud y dylai gwledydd mwy cyfoethog, gan gynnwys y Deyrnas Unedig, sicrhau eu bod yn cyflawni eu haddewid o gyllid hinsawdd blynyddol gwerth $100 biliwn erbyn y flwyddyn hon, ac y dylai $50 biliwn o’r cyllid hwnnw fynd i helpu pobl dlotaf y byd i addasu.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu cyfweliad yng Nghymru, cysylltwch â Swyddog y Cyfryngau a Chyfathrebu Oxfam Cymru, Heulwen Davies – hdavies1@oxfam.org.uk/ 07817591930
Nodiadau i olygyddion:
Mae’r ystadegau yn y datganiad hwn i’r wasg yn seiliedig ar yr allyriadau carbon y pen o wahanol wledydd yn 2017, sef y flwyddyn ddiwethaf y mae data ar allyriadau o ddefnydd ar gael ar ei chyfer. Gweler nodyn ar y fethodoleg yma: https://oxfam.box.com/s/qx9npbxljbwmd94uz2uwx049nwwigc8l
Roedd Oxfam wedi comisiynu arolwg ar-lein o 1,623 o oedolion ym Mhrydain gan YouGov. Cynhaliwyd yr arolwg ar 22 a 23 Rhagfyr 2019.
Mae Oxfam yn gofyn i bobl lofnodi llythyr agored i’r Prif Weinidog, Boris Johnson, yn galw am weithredu ar unwaith ar yr argyfwng hinsawdd: https://actions.oxfam.org/great-britain/climate-emergency/letter/