Gwaith boddhaol ar gyfer menywod yng Nghymru

Graffigwaith ‘Gwaith boddhaol ar gyfer menywod yng Nghymru’

Nid yn unig y mae un o bob pedwar unigolyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ond mae yna o leiaf un person sy’n gweithio yn 50% o’r aelwydydd sy’n byw mewn tlodi. Mae adroddiad Dr Claire Evans, In-work poverty and the search for decent work for women in Wales, yn amlygu’r rhesymau pam y mae pobl sydd mewn gwaith yng Nghymru yn byw mewn tlodi a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar ddynion a menywod, ac yn nodi atebion posibl. Er bod nifer y menywod sydd mewn gwaith wedi cynyddu, ac er bod merched yn perfformio’n well na dynion ym myd addysg, mae menywod yn parhau i fod dan fwy o anfantais yn y farchnad lafur. Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn dangos bod menywod yn ennill 80% yn llai na dynion (yn cynnwys gwaith rhan-amser a llawn-amser), ac mai menywod sy’n dal 80% o’r swyddi rhan-amser.

Mae pwysigrwydd addysgu pobl ifanc a chodi eu hymwybyddiaeth o’r achosion, yr effeithiau a’r atebion o ran tlodi mewn gwaith a gwaith teilwng i fenywod yng Nghymru a ledled y byd, wedi arwain at lunio crynodeb o’r adroddiad ar ffurf ffeithluniau. Bydd y crynodeb hwn yn ymddangos yn fuan mewn adnodd addysgol ar gyfer pobl ifanc 14-19 oed sy’n ymgymryd â Her Dinasyddiaeth Fyd-eang Bagloriaeth Cymru.

Mae canlyniadau cyfranogiad anghyfartal yn y farchnad lafur i’w gweld yn amlwg. Mae canran uwch o’r menywod sy’n gweithio (44%) mewn gwaith rhan-amser, o gymharu â 12% o’r dynion, ac mae dros 70% o’r menywod sy’n gweithio’n rhan-amser yn ennill llai na’r Cyflog Byw. Mewn gwirionedd, fel y darganfu Dr Evans, mae gwaith rhan-amser i fenywod hefyd yn fwy tebygol o fod yn destun contractau dros dro neu ddim oriau. At hynny, mae 75% o’r swyddi rhan-amser yn y meysydd arlwyo, gweithio wrth y til, glanhau, clercyddol a gofalu – sectorau y mae menywod yn eu dominyddu. Yn y sectorau hyn, nid yn unig y mae cyflogau isel yn gyffredin ac mae swyddi yn ansicr, ond mae cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a dilyniant hefyd yn gyfyngedig.

Nid yng Nghymru yn unig y profir y broblem hon. Nid yw menywod ar hyd a lled y byd yn cyfranogi’n gyfartal yn yr economi. Mewn blog diweddar gan Francesca Rhodes, Man-Kwun Chan ac Anam Parvez Butt, Feminist solutions to man-made economic inequality[i], tynnir sylw at y ffaith fod menywod, yn fyd-eang, yn ennill 23% yn llai na dynion, a bod ganddynt gyfran 50% yn is o’r cyfoeth. Yn fyd-eang, mae menywod nid yn unig yn byw mewn tlodi ond maent yn wynebu gwahaniaethu, cyfran annheg o waith gofal di-dâl, a chyfyngiadau ar eu rhyddid.

Mae gwaith domestig a gofal di-dâl yn aml yn cael eu blaenoriaethu gan fenywod wrth iddynt orfod dewis rhwng gyrfa a gofalu am eu teulu. Mae Winnie Byanyima, Cyfarwyddwr Gweithredol Oxfam International, yn cytuno nad yw’r economi fyd-eang yn gweithio i fenywod. Mewn blog o’r un enw, mae Winnie yn nodi bod menywod yn cyfrannu 10 triliwn – ie, triliwn – i’r economi o ran gwaith domestig a gofal di-dâl.[ii] At hynny, mae yna lai o fenywod mewn safleoedd o bŵer, sy’n golygu bod yna lai o fodelau rôl i’n pobl ifanc eu hedmygu a’u hefelychu.

Mae Winnie yn pwysleisio bod y busnes o newid syniadau ac agweddau – y cyfreithiau anffurfiol sy’n pennu beth y gall menywod ei wneud a beth na allant ei wneud, er enghraifft gorfod gofalu yn y cartref neu fethu bod yn berchen ar dir – yn llawer anos.[iii] Yn yr un modd, yng Nghymru, mae stereoteipiau a rhwystrau o ran rhywedd yn effeithio ar y ffordd y mae menywod yn cymryd rhan yn yr economi, ac mae’r rhain wedi’u hamlinellu yn y ffeithluniau.

Mae Rhodes et al yn nodi bod mynediad at ofal plant cyhoeddus am ddim yn Rio de Janeiro, Brasil, wedi cynyddu cyfraddau cyflogaeth 27% ymhlith mamau sydd ar incwm isel. Mewn rhannau o Zimbabwe, gallai darparu mynediad at well ffynhonnell ddŵr leihau llwyth gwaith gofal di-dâl cyfartalog menywod bedair awr y dydd – sy’n gyfwerth â dau fis y flwyddyn. Yng Nghymru, mae Dr Evans yn amlygu lle y gallwn wneud newidiadau i wella’r sefyllfa i fenywod, gan gynnwys ym mholisi Llywodraeth Cymru ac ym maes cyflogaeth, addysg ac ymwybyddiaeth gyhoeddus, hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae Oxfam Cymru yn gweithio gyda Bagloriaeth Cymru CBAC i roi cyfle i ddysgwyr astudio hawliau menywod a gwaith teilwng i fenywod trwy ymgymryd â Her Dinasyddiaeth Fyd-eang. Dywedodd Dr Evans, “Mae sicrhau’r adroddiad, Gwaith Teilwng, yn adnodd ar gyfer Bagloriaeth Cymru yn gyflawniad gwych. Ni allaf feddwl am ffordd well o ledaenu’r neges i’r genhedlaeth y bydd yn effeithio fwyaf arni. ”

Gadewch i bob un ohonom weithio gyda’n gilydd i sicrhau economi decach a mwy cyfiawn sy’n gweithio dros fenywod, a hynny yng Nghymru ac yn fyd-eang. Bydd yr her ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan CBAC, a’r pecyn ffynonellau i’w lawrlwytho oddi ar wefan Oxfam Cymru, ym mis Mai 2019. Cysylltwch â jjames1@oxfam.org.uk os oes gennych ddiddordeb mewn treialu’r adnoddau.

 

[i] Rhodes, Francesca,  Chan, Man-Kwun and Parvez, Anam (January 24th 2019) Feminist solutions to man-made economic inequality https://views-voices.oxfam.org.uk/2019/01/economic-inequality-gender/

[ii] Byanyima, Winnie (6th June 2018) The global economy isn’t working for women. Here’s what world leaders must do. https://www.weforum.org/agenda/2018/06/why-economic-inequality-feminist-issue-winnie-byanyima/

[iii] Byanyima, Winnie (6th June 2018) The global economy isn’t working for women. Here’s what world leaders must do. https://www.weforum.org/agenda/2018/06/why-economic-inequality-feminist-issue-winnie-byanyima/