Gan Sarah Rees,
Pennaeth Oxfam Cymru
Bob tro y bydd hi’n edrych trwy’r ffenestr, caiff Alex ei hatgoffa o’r diffygion cynhenid yn y ddarpariaeth gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
O’r llecyn manteisiol hwnnw mae hi’n gallu gweld tŷ ei ffrind – nid yw ond tafliad carreg i ffwrdd – sy’n bellter byr ond arwyddocaol. Mae gan ei ffrind blentyn dwy oed, yr un fath ag Alex, ond yn wahanol i Alex, mae hi’n byw mewn cod post Dechrau’n Deg.
Rhaglen wrthdlodi sy’n cael ei rhedeg gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau’n Deg, syn cynnig hyd at 2.5 awr y dydd o ddarpariaeth gofal plant am ddim i deuluoedd incwm isel cymwys sy’n byw mewn codau post penodol.
Yn anffodus, yn yr un modd â llawer o rieni eraill ledled Cymru, nid yw ffrind Alex yn gallu defnyddio Dechrau’n Deg am fod ei hawdurdod lleol yn ei hatal rhag defnyddio’r oriau mewn meithrinfa breifat lle gallai ychwanegu atynt i gael diwrnod llawn o ofal – rhywbeth y mae awdurdodau lleol eraill yng Nghymru yn ei ganiatáu.
“Loteri cod post yw Dechrau’n Deg nad yw’n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl,” dywedodd Alex wrthym.
Wrth i Lywodraeth y DU baratoi i gyflwyno darpariaeth gofal plant wedi’i hariannu i bob plentyn dwy oed yn Lloegr ym mis Ebrill – cynllun sydd wedi’i lethu gan anawsterau technegol a phryderon ynghylch buddsoddi – mae cynlluniau gofal plant anghyson Llywodraeth Cymru wedi cael eu rhoi dan y chwyddwydr wrth i rieni fynegi eu dryswch a’u rhwystredigaeth, a hynny trwy ddwy ddeiseb y bwriedir eu trafod yn y Senedd yfory.
Mae’n hawdd gweld pam y mae rhieni wedi eu cynddeiriogi.
Fel y datgelodd ymchwil gan Oxfam Cymru ddiwedd y llynedd: mae anallu i fforddio neu gael mynediad at ofal plant digonol yn rhoi straen aruthrol ar gyllid teuluoedd, yn ogystal ag ar iechyd meddwl a gyrfaoedd rhieni.
Roedd natur darpariaeth Dechrau’n Deg, sy’n ymdebygu i loteri, yn un o’r meysydd pryder allweddol a godwyd, wrth i rieni ddweud wrthym dro ar ôl tro nad oedd yn dod yn agos at ddarparu lefel y cymorth gofal plant cynhwysfawr, hyblyg y mae ei angen i helpu pobl i’w codi eu hunain allan o dlodi trwy ddod o hyd i waith a’i gadw. O fynegi hynny mewn modd syml, hyd yn oed os ydych yn un o’r ychydig rieni sy’n gymwys i gael cymorth, pwy sy’n mynd i allu cadw swydd pan mai 2.5 awr o ofal plant yn unig sydd gennych?
Mae chwaer-gynllun Dechrau’n Deg – sef cynllun blaenllaw Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru – yn targedu carfan gwbl wahanol o blant: plant tair a phedair oed rhieni sy’n gweithio ac sy’n ennill mwy na throthwy penodol. Mae gan y teuluoedd hyn hawl i hyd at 30 awr o ofal. Ble mae’r fagl? Yn aml mae’n rhaid rhannu’r oriau rhwng dau leoliad gwahanol, sy’n golygu bod llawer o rieni yn colli cyfle i allu cael mynediad at eu hawl lawn am na allant godi a gadael y gwaith yng nghanol y dydd i gludo eu plentyn o un lle i le arall.
Mae gan Dechrau’n Deg a’r Cynnig Gofal Plant eu diffygion, fel ei gilydd, ond efallai mai’r diffyg rhyfeddaf oll yw bod y ddau gynllun wedi’u datgysylltu’n llwyr oddi wrth ei gilydd. Ar hyn o bryd mae yna anghysondeb llwyr o ran y gofal: mae plant sy’n gymwys i gael cymorth wedi’i ariannu trwy Dechrau’n Deg pan fyddant yn ddwy oed yn annhebygol o fod yn gymwys wedi hynny i gael cymorth wedi’i ariannu trwy’r Cynnig Gofal Plant pan fyddant yn cyrraedd tair oed.
Yn dilyn pwysau gan rieni ac ymgyrchwyr, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn addo cyflwyno gofal plant a ariennir i bob plentyn dwy oed ers blynyddoedd; gan wneud ymrwymiad penodol i gyflawni hynny yn ei Chytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Ond yr hyn y mae’n ei wneud yn lle hynny yw cyflwyno elfen gofal plant ei chynllun Dechrau’n Deg presennol, er bod ganddo ei ddiffygion, a hynny’n aruthrol o araf, heb fod yna fap ffordd cyhoeddus ar gael i ddangos y modd y mae Gweinidogion yn bwriadu ehangu’r ddarpariaeth hon i bob plentyn dwy oed, a phryd y bydd hynny’n digwydd.
Fel y gŵyr rhieni a darparwyr yn dda iawn, mae sector gofal plant Cymru eisoes yn gwegian oherwydd diffyg buddsoddiad difrifol. Ac eto, dewisodd Llywodraeth Cymru beidio â defnyddio’r arian ychwanegol a ddyrannwyd iddi gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i’r gwariant ychwanegol ar ofal plant yn Lloegr, ar ehangu neu wella gofal plant yng Nghymru. Yn lle hynny, defnyddiwyd yr arian – £180 miliwn yn ôl y sôn – i helpu i lenwi’r twll du cyllidebol a oedd yn wynebu Gweinidogion Cymru, ynghyd â thanwariant o’r Cynnig Gofal Plant presennol.
Wrth gwrs, menywod yn bennaf sy’n talu’r pris am benderfyniadau Gweinidogion Cymru ac oedi anodd ei ddeall, ac mae mamau’n cael eu gorfodi i naill ai leihau eu horiau gwaith neu roi’r gorau i’w gwaith yn gyfan gwbl i ofalu am eu plant.
O ganlyniad, caiff menywod eu gorfodi i gylch dieflig o dlodi: gan dreulio blynyddoedd yn y diffeithwch cyflogaeth ac oesoedd wedi hynny yn ennill llai mewn swyddi ar lefel is na dynion, cyn wynebu twll du yn eu pensiwn o ganlyniad i flynyddoedd o fod heb enillion.
Canlyniad hyn oll? Mae tlodi ac ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau sy’n pontio’r cenedlaethau ledled Cymru yn ymwreiddio fwyfwy.
Mae’n amlwg na all Llywodraeth Cymru barhau i anwybyddu pwysau gan rieni, ymgyrchwyr cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac ymgyrchwyr gwrthdlodi am gyfnod amhenodol. Ni chaiff materion sy’n ymwneud â gofal plant Cymru eu datrys ychwaith mewn un ddadl 30 munud o hyd yn y Senedd.
Yn lle hynny, rhaid i Weinidogion gydnabod bod parhau i gyflwyno cynllun sydd eisoes wedi torri yn dda i ddim. Mae’n amlwg bod ar Gymru angen Grŵp Cynghori Annibynnol newydd ar ofal plant, a fydd yn cynnwys arbenigwyr allanol, a all arwain sgwrs onest am yr hyn y mae ei angen, ac i arwain y gwaith o ddatblygu cynllun clir ar gyfer system gofal plant newydd, decach, fwy cynhwysfawr o ansawdd uchel, wedi’i hategu gan fuddsoddiad parhaus yn y sector gofal plant.
Seilwaith economaidd sylfaenol yw gofal plant, a all, os caiff ei gynllunio a’i ddarparu’n dda, helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei huchelgeisiau o ran gwrthdlodi a chydraddoldeb rhwng y rhywiau. Ond ar hyn o bryd, nid yw system gofal plant Cymru yn cyflawni’r naill beth na’r llall.
Crynhodd Alex y peth yn berffaith, gan ddweud wrthym: “Mae gwir angen i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr bod y system yn gweithio i rieni, a’i bod yn cael ei gweithredu mewn modd teg, yn enwedig cyn iddyn nhw gyflwyno cymorth i blant dwy oed ymhellach. Mae’r cyfan yn llanast llwyr, ac mae’n amlwg bod angen gwneud rhywbeth.”
Rhaid i Weinidogion wrando ar ei phle. ‘Nawr yw’r amser i wneud rhywbeth.